croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Nod Meddal.com

Nod Meddal.com yw darparu neu gefnogi'r ddarpariaeth o feddalwedd o safon yn y Gymraeg. Mae Meddal.com yn gweithio i adnabod meddalwedd defnyddiol a hwylus - ac mae'r perchnogion yn barod i ni ei gyfieithu, ar gyfer ei ddarparu i ddefnyddwyr Cymraeg.

Canlyniad yr ymdrech honno yw'r safle gwe, a'n hymderchion i godi proffil meddalwedd Cymaeg yn y cyfryngau. Mae Meddal.com yn ddatblygiad gwirfoddol sy’n ailgylchu unrhyw elw i hyrwyddo’r dyblygiad ymhellach.

Mae Meddal.com bob amser yn falch o dderbyn adborth am ein hamcanion a'n dulliau o gyrraedd yr amcanion hynny.

Os oes gennych sylwadau am feddalwedd, y safle gwe neu'r deunydd cyhoeddusrwydd, cysylltwch â ni gyda'ch sylwadau

Diolch

Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg

Mae Meddal.com yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg.

Cysylltu

Os hoffech gysylltu â ni gwnewch hynny drwy post @meddal.com